Rydym yma i’ch helpu chi
Gall cynghorwyr ein lein gymorth:
Iechyd
Gwaith
Eich hawl i fudd-daliadau
Addysg
Cartrefi
Diogelwch Personol
Ai rhywbeth ar fy nghyfer i yw Lein Gymorth BAME Cymru?
Bwriedir y lein gymorth hon ar gyfer unrhywun dros 18 oed sy’n byw yng Nghymru, yn enwedig os ydych chi’n eich ystyried eich hun yn rhywun Du, Asiaidd neu o Leiafrif Ethnig, neu os carech chi siarad â rhywun mewn iaith arall heblaw am y Gymraeg neu’r Saesneg.
Rydym ar agor Llun - Gwener o 10:30yb tan 2:30yp. Gallwch chi gysylltu â ni ar y ffôn 0300 222 5720 a thrwy decst SMS 07537 432416.
Ar y ffôn? Ciciwch isod i sgwrsio nawr:
Amdanom Ni
Lein gymorth amlieithog genedlaethol yw Lein Gymorth BAME Cymru; mae’n cael ei darparu gan bartneriaeth rhwng EYST (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru), Women Connect First, ProMo Cymru, y Sefydliad Henna a Rhanddeiliaid BAME (Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) eraill i gynnig gwybodaeth i bobl BAME a’u hatgyfeirio a’u mynegbostio at gyngor arbenigol a sefydliadau cymunedol a rhai’r brif ffrwd. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy gyfrwng Cronfa Argyfwng y Sector Gwirfoddol. Prosiect arbrofol dros chwe mis yw hwn i ddechrau, a’r nod yw ymateb i’r effaith anghyfartal o drwm y mae Pandemig Coronafirws yn ei chael ar gymunedau BAME.
Dolenni defnyddiol
Rydym ar agor Llun - Gwener o 10:30yb tan 2:30yp. Gallwch chi gysylltu â ni ar y ffôn a thrwy decst SMS. Os ydych chi wedi ceisio cysylltu â ni y tu allan i’r oriau hyn, neu os oes angen cymorth arnoch chi’n ddioed, mae’r gwasanaethau canlynol ar gael 24/7:

BAWSO: lein gymorth 24 awr ynghylch Cam-drin Domestig
0800 7318147

C.A.L.L. Lein Gymorth Iechyd Meddwl
0800 132737 neu tecstiwch y gair ‘help’ i 81066

Yn achos pryderon ynghylch iechyd sy’n fater o frys ond heb haeddu gwneud galwad argyfwng, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar
111
Partneriaid

Adnoddau
Lein Gymorth BAME Cymru Taflen